oakview

Cartrefi gwyliau ar werth yn y gogledd

Parc cabanau moethus yn Nyffryn Clwyd yw Oak View Lodge Park ym Mryn Morfydd. Mae Dyffryn Clwyd yn ardal o harddwch naturiol eithriadol yn y gogledd.

Dewch i brofi hyfrydwch y gogledd a’r cyfle i fwynhau fel teulu dro ar ôl tro drwy fod yn berchen ar gartref gwyliau moethus yn Oak View Lodges.

A hwnnw yng nghesail y dyffryn, mae yma olygfeydd godidog dros Ddyffryn Clwyd mewn llecyn perffaith i ddianc rhag prysurdeb y byd, a hynny pryd bynnag y byddwch chi awydd hynny.

Wrth ichi ddynesu at y parcdir derw bendigedig ym Mryn Morfydd, fe gewch chi ymlacio a bwrw’ch blinder, gan sylwi mai dod yn berchennog cartref gwyliau yn y datblygiad moethus hwn oedd un o’r penderfyniadau gorau a wnaethoch chi erioed. Gyda’r allweddi i’ch caban gwyliau moethus eich hun yn y gogledd, bydd gennych chi’r rhyddid i fynd a dod fel y mynnwch chi. Fe gewch chi hefyd dreulio amser gwerthfawr gyda’r teulu, cwrdd â hen ffrindiau, neu ddim ond gorffwys a dianc rhag bywyd bob dydd.

Mae’r cabanau cyntaf yn y datblygiad bellach ar werth. Mae pob cartref gwyliau wedi’i ddodrefnu’n foethus ac mae gan bob un olygfeydd heb eu hail o’r hen barcdir. Mae gan ein plotiau ddigonedd o le y tu allan, ac mae modd trefnu i gael eich cyfleusterau ychwanegol eich hun, fel gardd neu dwba poeth.

Gyda golygfeydd rhyfeddol a chynifer o bethau i’w gwneud yn Nyffryn Clwyd, mae popeth yma i greu eich cartref gwyliau perffaith yng nghefn gwlad bendigedig y gogledd.

Ffoniwch ni ar 01824 480100 er mwyn trefnu i ddod i weld y cartrefi.

Gweld map y safle

Mae eich cartref gwyliau perffaith yn y gogledd yn aros amdanoch chi

Mae Oak View Lodge Park mewn lleoliad prydferth tu hwnt, ac yn berffaith i bobl sy’n chwilio am le i enaid gael llonydd; dewch yma i ymlacio, neu hyd yn oed i weithio gyda golygfa wahanol.

Mae modd dewis yr opsiwn i ddod yma am wyliau gydol y flwyddyn, ac yn y rhan odidog hon o’r gogledd, mae llefydd rhyfeddol i’w canfod a hanes ym mhobman o’ch cwmpas. Ar garreg eich drws, mae llwybrau cerdded campus drwy’r coed. Fymryn ymhellach, mae Parc Cenedlaethol Eryri ac arfordir Cymru lai nag awr yn y car i ffwrdd.

Gan fod Bryn Morfydd ar dir gweddol uchel, mae ein cabanau moethus yn cynnig golygfeydd heb eu hail dros Ddyffryn Clwyd, ynghyd â hoe rhag prysurdeb y byd pryd bynnag y byddwch chi awydd hynny. Fe allwch chi aros yma drwy’r haf i gyd, neu ddianc am y penwythnos yn unig. Rydyn ni’n cynnig cabanau sydd â dwy, tair a phedair ystafell wely, a phob un yn llawn o’r dodrefn gorau a’r dechnoleg ddiweddaraf. Mae moethusrwydd ym mhobman o’ch cwmpas pan fyddwch chi’n berchen ar gartref gwyliau yn Oak View.

Mae cymaint i’w weld yn y rhan anghyfarwydd hon o Brydain, a’r cyfan i’w fwynhau pan fyddwch chi’n ymweld â’ch cartref gwyliau. Dewch i weld y cabanau gwyliau diweddaraf sydd gennyn ni ar werth yn y gogledd.

Ffoniwch ni ar 01824 480100 os hoffech chi drefnu i gael taith o amgylch y parc a gweld y gwahanol gabanau a’r safleoedd sydd ar gael ar werth yn y gogledd ar hyn o bryd.

Gwneud ymholiad

Get Directions From: